![]() | ![]() | ![]() | ![]() | ![]() | ![]() |
---|
Ystafelloedd a Phrisiau

Mae gennym amrywiaeth o ystafelloedd ar gael. Wedi penderfynnu pa fath o ystafell fyddai'n fwyaf addas ar gyfer eich arhosiad yn Llandudno, cliciwch oddi tano i wneud archebiad.
Gallwch weld os yw'ch dewis ar gael trwy glicio'r botwn oddi tano - yn anffodys, nid yw'r cyfleuster yma ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg ar hyn o bryd
Lleoliad

Mae Min y Don o ddifri ar fin y don - enw sy'n cyfleu ein lleoliad o flaen traeth prydferth Llandudno ac o fewn tafliad carreg i'r lan y mor. Gyferbyn a mynedfa'r piar Fictoraidd, 'rydym ar droed y Gogarth o fewn munudau o'r siopau, caffis a'r bwytai ar y stryd fawr.
Brecwast

Beth bynnag fo'ch dewis, o frecwast "Cymraeg" llawn i arddull cyfandirol ysgafn, bydd Rheinallt a Teresa yn hapus i baratoi eich brecwast gan ddefnyddio cynhwysion ffres. Vegan? Llysieuol? Celiaidd? - fe wnewn ein gorau glas i'ch plesio. Byddwch mor garredig a gadael i ni wybod wrth gyrraedd os oes gennych ddeiet arbennig gan ein bod yn prynnu cynhwysion ffres ar gyfer brecwast yn ddyddiol.